Aerial view of green coastal cliffs and farmland along the shoreline with a few white buildings, overlooking a calm blue ocean under a partly cloudy sky.

Sir Benfro | Pembrokeshire

Canolfan Ystagbwll

Bydd Ffidil Fawr 2026 yn digwydd yng Nghanolfan Addysg Awyr-Agored Ystagbwll yng nghalon Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mae gan Ystagbwll amrywiaeth mawr o ystafelloedd i siwtio anghenion pawb, yn cynnwys rhai sengl, dwbl neu pâr yn ogystal ag ystafelloedd i rannu mewn grwpiau mwy. Mae rhannu ystafelloedd wedi profi yn ffordd wych o gyfarfod ffrindiau newydd yn y gorffenol, ond os ydach chi’n dod mewn criw rhowch wybod i ni ac fedrwn ni neilltuo ystafell ar gyfer eich grwp.

Os ydach chi’n byw yn lleol neu mae’n well gennych chi archebu eich llety eich hun, fedrwch brynnu tocyn i’r cwrs heb archebu llety yn Ystagbwll. 

Mae pob tocyn cwrs yn cynnwys cinio a swper, ac mae brecwast yn cael ei gynnwys gyda phob tocyn llety. Yn anffodus nid yw rheolau’r ganolfan yn caniatau pebyll neu camper vans ar y safle, ond mae ‘na ddewis da o feusydd gwersylla yn agos. 

Rhagor o wybodaeth:

A stone house with blue window frames and a blue door, partially obscured by greenery and sunlight.

Cyrraedd

Mae Canolfan Ystagbwll yn hygyrch i gyrraedd mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn y car byddwch yn treulio oddeutu 2 awr a hanner o Gaerdydd, 1 awr 45 o Abertawe, 4 awr o Wrecsam neu Birmingham a 3 awr a hanner o Fryste. Yr orsaf drenau agosaf yw Doc Penfro, lle mae gwasanaethau o Gaerdydd (heibio Abertawe) yn cyrraedd mewn tua 3 awr. Bydd bysiau lleol neu dacsi yn cwblhau’r siwrne i Ystagbwll, a fedrwn ni hefyd drefnu i gasglu unrhywun sy’n teithio ar y tren o’r orsaf.

O’r M4, dilynnwch arwyddion tua Doc Penfro ar yr A477. Mae ‘na arwyddion i’r ganolfan ar y B4319. 

O’r Gogledd, dilynnwch yr A487 drwy Aberystwyth i Aberteifi, yna dilynnwch arwyddion i Pembroke/Penfro a Stackpole. 

what.3.words /// seatbelt.jousting.laces

People gathered outdoors, some playing violins, in a casual, social setting