Chwarae ynghyd. Dysgu ynghyd.
Darganfod yr awen.
Penwythnos Ffidil Cymreig
Welsh Fiddle Weekend
Cwmni Buddiannau Cymunedol
Canolfan Ystagbwll, Tachwedd 25 - 29ain 2026
traddodiadau, gyda’n gilydd
traditions, together
Uno chwaraewyr offerynnau llinynol wrth galon cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yw nod Ffidil Fawr. Mae’n benwythnos groesawgar i oedolion sydd eisiau chwarae, dysgu a chyfrannu i draddodiad byw, boed bynnag eu man cychwyn.
Yn ystod y penwythnos rydym yn rhannu alawon, archwilio arddull ac yn ceisio dwfnhau ein chwarae mewn awyrgylch agored a chefnogol. Mae yma le i ofyn cwestiynnau, arbrofi a mwynhau y pleser syml o gyd-chwarae ochr yn ochr. Nid mynychu yn unig ydych, ond yn dod yn un efo’r sain.
Mae’n fwy na’r ffidil, neu’r gerddoriaeth.
Rydyn ni’n cysylltu fel pobl.
● Dosbarthiadau
Amser gyda’r Tiwtoriaid
Ffidil a Feiola
Darganfod y traddodiad ffidil tanllyd sydd yma yng Nghymru
Bwriad y sesiynnau yma yw cyd-chwarae, archwilio alawon a datrys pethau wrth fynd. Mae ‘na le i bawb, dim ots os ydach chi’n darllen cerddoriaeth, dysgu o’r glust, neu just eisiau cael cynnig arni. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr efo chwaraewyr eraill, yn arbrofi gyda technegau newydd, ac yn rhannu syniadau, gydag arweiniad gan diwtoriaid sydd yno i’ch helpu a’ch ysbrydoli yn hytrach na’ch cyfarwyddo. Y nod yw mwynhau’r gerddoriaeth, mynd i’r afael a heriau newydd ar eich cyflymder eich hun, a bod yn rhan o gymuned cerddorol gyfeillgar.
Soddgrwth a Bas Dwbl
Ehangu’r gorwelion o chwarae alawon o rhythmau
Bwriad y sesiynnau yma ydi darganfod eich lle o fewn y traddodiad ar offeryn bas. Boed eich bod yn darganfod seiniau dwfn a chyfoethog y tannau isel am y tro cyntaf neu yn ceisio ehangu eich techneg, mae yma le i arbrofi, gofyn cwestiynnau a thrio pethau ar eich cyflymder eich hun. Byddwch yn cyd-chwarae ochr yn ochr ag eraill, yn rhannu syniadau ac yn derbyn cyngor gan diwtoriaid profiadol sydd yno i gefnogi ac annog. Y nod yw mwynhau’r sain, cysylltu efo’r grwp a darganfod ffyrdd newydd i greu cerddoriaeth ar eich offeryn.
Penwythnos yn Ystagbwll
Ar benwythnos yng Nghanolfan Ystagbwll fedrwch swatio mewn lleoliad prydferth a hamddenol yng nghanol Ystad Ystagbwll ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Ymysg coedwigoedd a llynnau croyw, a thafliad carreg o draethau anhygoel fel Barafundle, mae’n le delfrydol i gymysgu ffocysu ar gerddoriaeth gydag amser hamdden yn yr awyr agored. Mae’r adeiladau cerrig addasedig yn cynnig llety cyfforddus i grwpiau a digon o le i gynnal gweithdai, tra bo’r llwybrau a’r arfordir cyfagos yn eich gwahodd i anadlu ac ymlacio mewn natur rhwng dosbarthiadau a sesiynnau ensemble. Mae’n lecyn sy’n caniatau cyfuno cerddoriaeth, cymuned a thangnefedd arfordir Sir Benfro mewn ffordd gwbl naturiol.
Cysylltu
Gwybodaeth Pellach
Os ydach chi’n chwilfrydig am y penwythnos ffidil, yn ystyried ymuno efo ni yn Ystagbwll, neu efo diddordeb mewn cefnogi ein cwmni buddiannau cymunedol, faswn ni wrth ein boddau i glywed gennych.