Soddgrwth, Bâs Dwbl

Cello and Double Bass

Dyma’r cyfle i ddysgu alawon, magu hyder, a mwynhau cyd-chwarae. Gan groesawu chwaraewyr ar y soddgrwth neu’r bas-dwbl, nod y sesiynnau yma yw darganfod reprtoire traddodidaol Gymreig ynhyd a techneg, grŵf a chwarae mewn ensemble. Os ydach chi’n ffafrio darllen neu chwarae o’r glust, bydd yna gefnogaeth i chi ddatblygu eich sain, arbrofi efo syniadau newydd, a theimlo’n rhan o’r gymuned Ffidil Fawr.

Beth i Ddisgwyl

Yn y sesiynnau yma byddwn yn mynd at wraidd yr alawon gyda’n gilydd, gan ganolbwyntio ar grŵf, rhythm, a’r manylion bach sy’n dod a’r gerddoriaeth yn fyw. Rydym yn annog soddgrythwyr a basyddion i drio chwarae’r alaw a chyfeilio, ac i ddatblygu arddull sy’n gweddu i’r traddodiad. Mae yna amser i wrando, trio pethau a magu hyder, boed eich bod yn dysgu o’r glust neu o’r copi. Mae’n eglur, yn ymarferol ac wedi seilio ar gyd-chwarae.

Strwythr

Mae pob diwrnod yn cymysgu cyd-chwarae mewn grwp gyda canolbwyntio ar dechneg, arddull a dysgu alawon. Rydym yn cydweithio i archwilio syniadau newydd i drio ac alawon newydd i arbrofi anrnynt. Dydan ni ddim ar frys - mae ‘na amser am gwestiynnau, ailadrodd, a dod yn gyfforddus efo’r gerddoriaeth.

Adnoddau ag Ati

Byddwch yn derbyn adnoddau i’r sesiynnau i gyd, yn cynnwys cerddoriaeth ysgrifenedig lle bo angen, ynghyd ag arweinyddiaeth ar dechneg, arddull a chwarae mewn ensemble. Mae’r penwythnos yn cynnwys addysg strwythuredig , dosbarthiadau opsiwn ar ystod eang o bynciau cerddorol, a’r cyfle i ymuno i gyd-chwarae yn y gerddorfa Ffidil Fawr - yn ogystal ag amser i ddarganfod Ystad Ystagbwll. Bydd yna hefyd gyfleoedd i ymgynyll a gwneud cerddoriaeth mewn cyd-destyn anffurfiol tu hwnt i’r digwyddiadau swyddogol.


Hyd y Sesiynnau

Mae’r sesiynnau yn ddigon hir i fynd at wraidd y gerddoriaeth heb deimlo’n llethol. Byddwch yn barod am gyfnodau o tua 60-90 munud o ffocws, yna egwyl i ymlacio, sgwrsio ag ailosod cyn y sesiwn nesaf. 

Lefel o Brofiad

Rydym yn croesawu chwaraewyr gyda ystod eang o allu, o ddechreuwyr hyderus i’r sawl gyda mwy o brofiad. Bydd disgwyl i chi allu dal eich offeryn yn gyfforddus a chwarae alawon syml. Mae’r dull o ddysgu wedi ei ddylunio fel bod pawb yn cael eu herio ar eu lefel eu hunain tra’n cyd-chwarae gyda’r grwp.


● Faculty & Staff

A woman with curly hair, glasses, and earrings, holding and playing an acoustic guitar.

Y Tiwtoriaid

Awen Blandford

Tiwtor sylfaenol

Mae Awen yn soddgrythor a chantores lawrydd o Ogledd Cymru, bellach yn byw ym Manceinion. Ers graddio o’r RNCM mae hi’n gwneud ystod eang o berfformio a dysgu gyda phwyslais ar gerddoriaeth draddodiadol Cymreig, creadigrwydd ac ar lleshad cerddorol.

A man with a red beard and curly hair wearing headphones, playing a cello in a recording studio.

Jordan Price Williams

tiwtor uwch

Mae Jordan yn soddgrythor, canwr ac arweinydd prosiect mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Yn raddedig o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, mae’n aelod o VRï ac yn sylfaenydd Ffidil Fawr, yn dod a cherddoriaeth ffidil Gymreig i’r soddgrwth.