Dechreuodd Ffidil Fawr nol yn 2024 fel dipyn o arbrawf. Beth byddai’n digwydd petawn ni’n gwahodd llond criw i ddathlu, rhannu a thrafod y traddodiad o chwarae’r ffidil yng Nghymru? Roeddem ni’n awyddus i greu gofod lle fyddai pawb sy’n mwynhau chwarae cerddoriaeth Gymreig ar offerynnau llinynol yn gallu dod ynghyd i ddysgu a rhannu alawon.
Mae hi ‘di bod yn amlwg ers talwm fod diddordeb yn y maes yma yn cynyddu, ond fod cyfleoedd strwythredig i brofi’r traddodiad, tan yn ddiweddar, yn dra brin. Roedd y penwythnos Ffidil Fawr yn ymateb i hyn, ac yn gais i ddatrys y sefyllfa.
Dros y penwythnos yna ym Mhlas Caerdeon, fe sylweddolom ni fod yr awch a’r angen am ddigwyddiadau fel hyn yn llawer iawn mwy hyd yn oed na beth oeddem ni wedi disgwyl.
Ym mis Medi 2025 fe chwyddodd y peth, nid yn unig drwy symyd i leoliad mwy ond hefyd drwy wahodd dwy diwtor ychwanegol i arwain dosbarthiadau eu hunain; Angharad Jenkins ag Awen Blandford. Gyda’u egni a’u brwdfrydedd yn ogystal a’u doniau cerddorol, efo’r ddwy yma ar y tîm roedd hi’n amlwg i bawb fod y symudiad yma’n dechrau magu momentwm.
Ym mis Mawrth 2026 fe sefydlom ni Ffidil Fawr fel Cwmni Buddiant Cymunedol; roedd hyn yn teimlo fel y cam naturiol nesaf er mwyn parhau i gefnogi’r penwythnos ffidil, a pharatoi’r ffordd i wneud ystod eang o waith yn hyrwyddo’r traddodiad yng Nghymru
Yn y Dechreuad
Ffidil Fawr CBC | CIC
As a community interest company our plan is to find ways we can create easier access to the Welsh tradition. We already create printed and digital resources, and . We strongly believe that if want this tradition to thrive, it needs clear, usable resources that teachers and learners can rely on.
We want this work to travel beyond us.
We also want to invest in musicians and educators. Mentoring, training and reflective practice will be central to what we do both within Ffidil Fawr CBC and in our wider work. If more teachers feel confident delivering Welsh traditional music in schools, community settings and private studios, the impact multiplies.
Ffidil Fawr is already more than a fiddle weekend or a social enterprise. It’s an invitation to help us bring folks together through sharing music, the music of Wales.
Beth sy’n digwydd yn barod?
Mae ein penwythnos ffidil yn canolbwyntio ar offerynnau llinynol gyda bwa. Y nod yw i greu gofod lle gall pobl ddysgu a phrofi’r traddodiad ffidil Gymreig ar bob cam o’u siwrne.
Mae’r penwythnos Ffidil Fawr hefyd yn gyfle mawr i ni ddysgu - rydym ni o ddifri pan mae’n dod i’n rôl fel arweinyddion, ac rydym ni’n meddwl yn ddwfn am y ffyrdd gorau i ddysgu a rhannu’r gerddoriaeth.
Gan ddefnyddio cyfuniad o nodiant a dysgu ar y glust, a gyda pwyslais ar geisio mwynhau techneg, rydym yn annog yr elfennau byrfyfyr o chwarae’r ffidil draddodiadol a dysgu fel grwp, gan fod y bleser o gyd-chwarae yn rhan anatod o gerddoriaeth draddodiadol.
Er mwyn pwy?
Mae Ffidil Fawr CBC yn bodoli er mwyn helpu pobl o bob oedran a phrofiad i fwynhau cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yng Nghymru a thu hwnt, boed nhw’n ddechreuwyr llwyr neu’n addysgwyr profiadol.
Yn bennaf rydym yn anelu i gynorthwyo’r sawl sydd a rhwystrau i’w mynediad at weithgareddau o ansawdd uchel, oherwydd daearyddiaeth, costau, iaith neu hyder. Y nod yw i greu sefyllfaoedd sy’n agored ond yn bwrpasol, yn groesawgar ac yn uchelgeisiol.
Pan fo rhywun yn cwblhau digwyddiad Ffidil Fawr, rydym yn ceisio’u gyrru ffwrdd yn teimlo’n fwy galluog, gyda chysylltiad cryfach i’r gerddoriaeth ac yn barod i’w mwynhau ar eu termau nhw’u hunain.
Fel CBC, mae ein pwrpas ynghlwm yn ein strwythr.
Bydd unrhyw arian dros ben wastad yn cael ei ail-fuddsoddi i ddatblygu prosiectau newydd, gyda chymorth ariannol i’r sawl sydd ei angen a thâl teg i artistiaid ac arweinyddion. Nid cloddio’r traddodiad i geisio darganfod gwerth ydi’r nod, ond ceisio ei gryfhau.
Mae’n rhaid i ni gael meddylfryd hir-dymor, cynllunio yn ofalus a chymeryd penderfyniadau sy’n fuddiol i’r gymuned.
Mae rhaid hefyd fod yn onest am safonnau; os ydyn ni am weld cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn llewyrchu yna mae’n rhaid i ni ei drin gyda’r un parch a difrifoldeb ac mae traddodiadau cerddorol eraill yn disgwyl ac yn derbyn.
Ein Ymrwymiad fel Cwmni Budd Cymunedol
Ymlaen…
Megis dechrau ydan ni.
Yn y blynyddoedd sydd i ddod, rydym eisiau ehangu ein darpariaeth ledled Cymru. Ein nod yw i ffurfio fframwaith addysg eglur i gerddoriaeth draddodiadol Cymreig y gall eraill ei fenthyg a’i ddatblygu, a chyhoeddi adnoddau sy’n gwneud y gerddoriaeth yn hygyrch i bawb. Rydym ni am greu llwybrau i gerddorion ifanc neu llai profiadol deimlo cefnogaeth ar eu siwrne.
Yn bennaf, rydym ni am weld y grefft o chwarae llinynnau o fewn cyd-destyn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn tyfu mewn i rhywbeth hyderys a gweladwy yn ein bywydau dyddiol - ddim yn cuddio yn y cysgodion, na’n fregys neu tila, a ddim yn ddibynol ar weithredoedd lleiafrif bach yn unig.
Ni ddaw’r dyfodol yna ar hap a damwain - fydd yn digwydd wrth i bobl ddewis i wneud y gwahaniaeth ar y cyd.
Ein cyfraniad ni i’r achos yna ydi Ffidil Fawr.
Rydym ni hefyd angen eich mewnbwn CHI - helpwch ni i siapio dyfodol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru drwy cysylltu efo ni a rhannu eich syniadau!