Ffidil Fawr, Ffidil Fechan
Ffidil a Fiola
Mae ein dosbarthiadau ffidil yn gyfle i ddysgu alawon, magu hyder a mwynhau cyd-chwarae. Yn agored i ffidlwyr a feiolyddion, bydd y sesiynnau yma yn archwilio’r repertoire traddodiadol Gymreig yn ogystal a thechneg, arddull a sgiliau ensemble. Os ydach chi’n dysglu o’r glust neu o’r dudalen, fe gewch eich cefnogi i ddatblygu eich sain, i drio syniadau newydd ac i deimlo yn rhan o’r gymuned Ffidil Fawr.
Beth i
Ddisgwyl
Yn y sesiynnau yma byddwn yn tynnu’r alawon yn ddarnau gyda’n gilydd, gan dalu sylw i rhythm, defnydd o’r bwa, a’r manylion bach sy’n dod a’r gerddoriaeth yn fyw. Mae ‘na groeso mawr i chwaraewyr feiola yn y grwp yma, ac mae cyfle i bawb i ddatblygu arddull ffidil draddodiadol. Bydd amser i wrando, arbrofi, a magu hyder, dim ots os ydach chi’n dysgu o’r glust neu o’r copi. Mae’n eglur, yn ymarferol ac yn blaenoriaethu cyd-chwarae.
Strwythr
Mae pob diwrnod yn cymysgu cyd-chwarae mewn grwp gyda canolbwyntio ar dechneg, arddull a dysgu alawon. Rydym yn cydweithio i archwilio syniadau newydd i drio ac alawon newydd i arbrofi anrnynt. Dydan ni ddim ar frys - mae ‘na amser am gwestiynnau, ailadrodd, a dod yn gyfforddus efo’r gerddoriaeth.
Adnoddau ag Ati
Byddwch yn derbyn adnoddau i’r sesiynnau i gyd, yn cynnwys cerddoriaeth ysgrifenedig lle bo angen, ynghyd ag arweinyddiaeth ar dechneg, arddull a chwarae mewn ensemble. Mae’r penwythnos yn cynnwys addysg strwythuredig , dosbarthiadau opsiwn ar ystod eang o bynciau cerddorol, a’r cyfle i ymuno i gyd-chwarae yn y gerddorfa Ffidil Fawr - yn ogystal ag amser i ddarganfod Ystad Ystagbwll. Bydd yna hefyd gyfleoedd i ymgynyll a gwneud cerddoriaeth mewn cyd-destyn anffurfiol tu hwnt i’r digwyddiadau swyddogol.
Hyd y Sesiynnau
Mae’r sesiynnau yn ddigon hir i fynd at wraidd y gerddoriaeth heb deimlo’n llethol. Byddwch yn barod am gyfnodau o tua 60-90 munud o ffocws, yna egwyl i ymlacio, sgwrsio ag ailosod cyn y sesiwn nesaf.
Lefel o Brofiad
Rydym yn croesawu chwaraewyr gyda ystod eang o allu, o ddechreuwyr hyderus i’r sawl gyda mwy o brofiad. Bydd disgwyl i chi allu dal eich offeryn yn gyfforddus a chwarae alawon syml. Mae’r dull o ddysgu wedi ei ddylunio fel bod pawb yn cael eu herio ar eu lefel eu hunain tra’n cyd-chwarae gyda’r grwp.
Y Tiwtoriaid
Angharad Jenkins
Ffidlwr, cantores a chyfansoddwraig o Abertawe ydi Angharad. Yn gyn-aelod o Calan, bellach mae hi’n gweithio ar draws cerddoriaeth draddodiadol a chyfoes, yn perfformio a chyd-weithio’n helaeth tra’n creu gwaith gwreiddiol.
foundations tutor
Aneirin Jones
Intermediate tutorYn enedigol o Bontardawe, mae Aneirin yn ffidlwr cymreig heb ei ail ac yn aelod o VRï. Ers graddio o Conservatoire Brenhinol Yr Alban mae’n perfformio’n rhyngwladol, yn cyfansoddi alawon newydd ac yn addysgwr brwd, yn cynnwys ar gyrsiau fel Gwerin Gwallgo a Ffidil Fawr.
Patrick Rimes
advanced tutorMae Patrick yn gerddor, cyfansoddwr ac addysgwr o Eryri. Mae’n perfformio dros y byd efo bandiau fel VRï ac Alaw, yn cyfansoddi/trefnu i artistiaid mewn ystod eang o arddulliau, ac yn angerddol am ddysgu’r grefft o gerddoriaeth traddodiadol ar gyrsiau fel Ffidil Fawr ac yn CCDBC.